Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

       

Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2014 a dydd Mercher 26 Tachwedd 2014

Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2014 a dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014

Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014 a dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2014

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5  i Sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad (5 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Imiwneiddio - cynnydd a brechiadau (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Rhaglen Twf Swyddi Cymru yn y Dyfodol (30 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliannau mewn perthynas â Ffioedd Asiantaethau Gosod (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – darpariaethau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant (15 munud)

·         Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (5 munud)

·         Dadl: Effaith Diwygiadau Lles Llywodraeth y DU yng Nghymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2014

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes ar Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (60 munud)

·         Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer – Nick Ramsay (Sir Fynwy) (30 munud)

·         Dadl Fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud) - gohiriwyd o ddydd Mercher 19 Tachwedd

 

Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2014

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno'r Bil Cymwysterau (Cymru) (60 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Gwyddoniaeth yng Nghymru - Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf (30 munud)

·         Dadl: Effaith y Polisi Caffael yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol 2014 ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau (60 munud)

 

Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (30 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ddulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - William Graham (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (30 munud)

·         Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caethwasiaeth Fodern – darpariaethau sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ar adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Troseddau Difrifol (15 munud)

·         Dadl: Cyllideb Derfynol 2015-16 (60 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·          Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

·         Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)